Y Cwmni Bach
Cyfres newydd o bodlediadau yng nghwmni Elinor Wyn Reynolds.
About the show
Cyfres o sgyrsiau estynedig yng nghwmni Elinor Wyn Reynolds ac ystod eang o westeion.Yn ystod y rhaglenni mae Elinor yn trafod bywyd a gyfraoedd ei gwesteion a phwysigrwydd ffydd iddynt.
Episodes
-
Y Cwmni Bach - Siân Meinir
May 2nd, 2024 | 51 mins 29 secs
Y gantores opera, Siân Meinir sy'n cadw cwmni i Elinor Wyn Reynolds yn y stiwdio y tro hwn.
Cafodd Sian Meinir ei geni yn Swydd Caer a'i magu yng Ngwynedd.Y tu allan i WNO, mae Sian yn Fardd Cadeiriol yr Eisteddfod Genedlaethol; yn cyfieithu caneuon i'r Eisteddfod Genedlaethol, yn diwtor llais ac yn Feirniad Cenedlaethol. Mae'n aelod gweithgar o Gapel Bethel, Penarth.
-
Y Cwmni Bach - Graham McGeogh
April 10th, 2024 | 13 mins 10 secs
Sgwrs gyda'r Parchg Ddr Graham McGeogh, sy'n Ysgrifennydd Cenhadol CWM yn Llundain. Daw o'r Alban yn wreiddiol ond mae bellach yn cyfrif dinas fawr Rio de Janeiro fel ei gartref.
-
Y Cwmni Bach - Laura Karadog
April 9th, 2024 | 1 hr 8 mins
Mae Laura Karadog yn athrawes Yoga a myfyrio yng Ngorllewin Cymru ac mae'n ymuno ag Elinor Wyn Reynolds i drafod ei magwraeth yng Ngogledd Cymru, ei phrofiadau yn teithio'r byd a'i gwaith fel hyfforddwr Yoga.
-
Y Cwmni Bach - Julie Edwards
April 9th, 2024 | 58 mins 33 secs
Swyddog Diogelu y Panel Diogelu Cydenwadol yw gwestai Elinor Wyn Reynolds y tro hwn yn Y Cwmni Bach.
-
Episode 16: Y Cwmni Bach - Dr Dai Lloyd
April 8th, 2024 | 1 hr 11 mins
Elinor Wyn Reynolds sy'n cael cwmni'r meddyg teulu a'r gwleidydd Dr Dai Lloyd yn stiwdio'r Cwmni Bach i drafod ei yrfa, ei fywyd a'i ffydd.
-
Y Cwmni Bach - Menna Elfyn
March 1st, 2024 | 1 hr 3 mins
Mae Elinor yn cael cwmni y bardd, dramodydd, colofnydd a'r golygydd Cymreig, Menna Elfyn yn y Cwmni Bach y tro hwn.
-
Y Cwmni Bach - Edward Morus Jones
February 1st, 2024 | 1 hr 2 mins
Sgwrs hamddenol rhwng Edward Morus Jones ac Elinor Wyn Reynolds yn trafod ei fagwraeth yn fab ffarm yn Llanuwchllyn, ei yrfa fel canwr adnabyddus a'i fywyd yn yr Unol Daleithiau.
-
Episode 13: Y Cwmni Bach - Sheridan Angharad James
January 1st, 2024 | 1 hr 13 mins
cristnogaeth, cymru, faith, ffydd
Sheridan Angharad James yw gwestai arbennig Elinor Wyn Reynolds y tro hwn yn y Cwmni Bach. Mae hi yn Ganon Bugeiliol ar y plwyf a phererinion yn Nhŷ Ddewi.
-
Y Cwmni Bach - Dafydd Iwan
December 1st, 2023 | 1 hr 3 mins
cymru, faith, ffydd, wales
Y canwr, gwleidydd a'r pregethwr Dafydd Iwan yw gwestai Elinor Wyn Reynolds yn y rhifyn arbennig hwn o'r Cwmni Bach.
-
Y Cwmni Bach - Emlyn Davies
November 2nd, 2023 | 50 mins 17 secs
Cyfres newydd o bodlediadau yng nghwmni Elinor Wyn Reynolds. Emlyn Davies, Pentrych yw'r gwestai y tro hwn.
-
Y Cwmni Bach - Nel Richards
October 27th, 2023 | 36 mins 19 secs
Brodor o Glydach yw Nel Richards ond sy'n byw bellach yn Llundain. Hi yw gwestai Elinor Wyn Reynolds ar y Cwmni Bach y tro hwn.
-
Y Cwmni Bach - Delwyn Siôn
October 27th, 2023 | 1 hr 5 mins
Y canwr bytholwyrdd, Delwyn Siôn sy'n ymuno ag Elinor Wyn Reynolds yn y Cwmni Bach yn y rhifyn hwn. Mae'n trafod ei yrfa fel cerddor dros nifer o ddegawdau, ei fagwraeth yn y cymoedd a'i rôl fel arweinydd yn eglwys annibynnol Bethlehem, Gwaelod y Garth.
-
Y Cwmni Bach - Dewi Myrddin Hughes
October 27th, 2023 | 57 mins 8 secs
Cyn Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, Dewi Myrddin Hughes sy'n ymuno ag Elinor Wyn Reynolds y tro hwn i drafod ei fywyd a'i weinidogaeth.
-
Y Cwmni Bach - Geraint Rees
October 2nd, 2023 | 1 hr 10 mins
Dewch i gyfarfod â thrysorydd newydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn Y Cwmni Bach. Yn ei sgwrs gydag Elinor Wyn Reynolds mae Geraint Rees yn trafod ei yrfa ym myd addysg, ei fagwraeth a'i eglwys yn Efail Isaf.
-
Y Cwmni Bach - Rhun Dafydd
October 1st, 2023 | 47 mins 29 secs
annibynwyr, bywyd, crefydd, ffydd
Cadeirydd Cymdeithas y Cymod, Rhun Dafydd yw gwestai Elinor Wyn Reynolds yn y Cwmni Bach yr wythnos hon.
-
Y Cwmni Bach - Ifor ap Glyn
September 13th, 2023 | 1 hr 6 mins
bardd, crefydd, cymru, ffydd
Mae Ifor ap Glyn yn adnabyddus fel cyn fardd cenedlaethol. Dyma gyfle i glywed ychydig o'i hanes mewn sgwrs gydag Elinor Wyn Reynolds yn y Cwmni Bach.