Y Cwmni Bach

Cyfres newydd o bodlediadau yng nghwmni Elinor Wyn Reynolds.

About the show

Cyfres o sgyrsiau estynedig yng nghwmni Elinor Wyn Reynolds ac ystod eang o westeion.Yn ystod y rhaglenni mae Elinor yn trafod bywyd a gyfraoedd ei gwesteion a phwysigrwydd ffydd iddynt.

Episodes

  • Y Cwmni Bach - Delwyn Siôn

    October 27th, 2023  |  1 hr 5 mins

    Y canwr bytholwyrdd, Delwyn Siôn sy'n ymuno ag Elinor Wyn Reynolds yn y Cwmni Bach yn y rhifyn hwn. Mae'n trafod ei yrfa fel cerddor dros nifer o ddegawdau, ei fagwraeth yn y cymoedd a'i rôl fel arweinydd yn eglwys annibynnol Bethlehem, Gwaelod y Garth.

  • Y Cwmni Bach - Dewi Myrddin Hughes

    October 27th, 2023  |  57 mins 8 secs

    Cyn Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, Dewi Myrddin Hughes sy'n ymuno ag Elinor Wyn Reynolds y tro hwn i drafod ei fywyd a'i weinidogaeth.

  • Y Cwmni Bach - Geraint Rees

    October 2nd, 2023  |  1 hr 10 mins

    Dewch i gyfarfod â thrysorydd newydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn Y Cwmni Bach. Yn ei sgwrs gydag Elinor Wyn Reynolds mae Geraint Rees yn trafod ei yrfa ym myd addysg, ei fagwraeth a'i eglwys yn Efail Isaf.

  • Y Cwmni Bach - Rhun Dafydd

    October 1st, 2023  |  47 mins 29 secs
    annibynwyr, bywyd, crefydd, ffydd

    Cadeirydd Cymdeithas y Cymod, Rhun Dafydd yw gwestai Elinor Wyn Reynolds yn y Cwmni Bach yr wythnos hon.

  • Y Cwmni Bach - Ifor ap Glyn

    September 13th, 2023  |  1 hr 6 mins
    bardd, crefydd, cymru, ffydd

    Mae Ifor ap Glyn yn adnabyddus fel cyn fardd cenedlaethol. Dyma gyfle i glywed ychydig o'i hanes mewn sgwrs gydag Elinor Wyn Reynolds yn y Cwmni Bach.

  • Y Cwmni Bach - Siân Wyn Rees

    September 13th, 2023  |  43 mins
    crefydd, cymdeithas y beibl, ffydd

    Pennaeth Cymdeithas y Beibl yng Nghymru, Siân Wyn Rees yw gwestai Elinor Wyn Reynolds yn y Cwmni Bach y tro hwn. Yn enedigol o Lanilar, Ceredigion mae Siân bellach yn byw yng Nghaerdydd.

  • Y Cwmni Bach - Arfon Jones

    September 13th, 2023  |  1 hr 6 mins

    Y tro hwn mae Elinor Wyn Reynolds yn cael cwmni Arfon Jones, cyfieithydd beibl.net a nifer o ganeuon addoli cyfoes yn stiwdio y Cwmni Bach.

  • Y Cwmni Bach - Siôn Brynach

    September 8th, 2023  |  1 hr 5 mins

    Elinor Wyn Reynolds a phennaeth Cytûn, Siôn Brynach sy'n sgwrsio yn Y Cwmni Bach.

  • Y Cwmni Bach - Jeff Williams

    September 8th, 2023  |  1 hr 23 secs

    Llywydd newydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Parchg Jeff Williams yw cwmni Elinor Wyn Reynolds yn Y Cwmni Bach.